Pyliau o banig: beth ydyn nhw a beth allwch chi ei wneud amdanyn nhw

Mae “Pyliau o banig: beth ydyn nhw, a beth i’w wneud yn eu cylch” yn gwrs rhad ac am ddim a ddylai fod o gymorth i unrhyw un sy’n profi pyliau o banig neu banig, i’w teulu a’u ffrindiau, ac i unrhyw un sydd â diddordeb mwy cyffredinol mewn iechyd meddwl a’i driniaeth. Mae’r cwrs yn dechrau trwy archwilio diffiniadau ffurfiol o banig a phyliau o banig. Yna cyferbynnir y rhain â straeon personol o’r profiad o banig. Mae hefyd yn cyflwyno rhai o’r dealltwriaethau allweddol ynghylch pam mae pyliau o banig yn digwydd, ac yn rhoi trosolwg o’r prif ffyrdd y gall pobl gael help a helpu eu hunain.