Cytundeb Gwerthwr Trydydd Parti

Croeso i eCymru. Drwy ddefnyddio eCymru i drefnu, creu neu reoli digwyddiadau a/neu gyrsiau ar-lein, rydych yn cytuno i gael eich rhwymo i’r amodau isod.

Mynediad a Chwmpas

Gwasanaeth

Mae eCymru yn caniatáu i Werthwyr Trydydd Parti i greu, trefnu, cynnig, hybu a rheoli digwyddiadau a chyrsiau ar-lein ar eCymru.

Cyrchu’r Gwasanaeth

I fod yn Werthwr Trydydd Parti, mae’n rhaid i chi gael eich cymeradwyo gan un o’r Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig sy’n gysylltiedig ag eCymru i gynnig digwyddiadau.

Perthynas

Os ydych yn dewis defnyddio eCymru fel trefnydd digwyddiad, mae’r berthynas gydag eCymru wedi’i chyfyngu i fod yn drydydd parti annibynnol, ac nid yn gyflogai eCymru.

Dolenni Trydydd Parti

Gall eCymru gynnwys dolenni i wefannau ac adnoddau Trydydd Parti. Efallai bod y gwefannau Trydydd Parti hyn yn ddarostyngedig i delerau ac amodau, a pholisïau preifatrwydd, gwahanol.

Nid yw dolenni i Wasanaethau Trydydd Parti fel hyn yn gymeradwyaeth gan Zoom o’r Gwasanaethau Trydydd Parti hyn, a byddwch yn defnyddio’r Gwasanaethau Trydydd Parti hyn ar eich risg eich hun.

Defnydd o eCymru

Digwyddiadau

Mae Gwerthwyr Trydydd Parti yn llwyr gyfrifol am eu digwyddiadau, cyrsiau a rhestriadau eu hunain, gan gynnwys darparu cefnogaeth i gwsmeriaid.

Pan fyddwch yn creu rhestriad Digwyddiad drwy eCymru, mae’n rhaid i chi: (1) ddarparu gwybodaeth gyflawn a chywir am eich Digwyddiad a/neu Gwrs; (2) ddatguddio unrhyw gyfyngiadau a gofyniadau sy’n berthnasol (e.e. adnoddau) a (3) darparu unrhyw wybodaeth berthnasol arall.

Ticedi

Pan mae mynychwyr eCymru yn archebu ticedi, maen nhw’n ymrwymo i gytundeb gyda’r Gwerthwr Trydydd Parti.

Diogelu Data a’r Defnydd o Wybodaeth Mynychwyr Digwyddiad

Mae Gwerthwyr Trydydd Parti yn cytuno i gasglu a defnyddio dim ond y wybodaeth mynychwyr sydd wir ei angen er mwyn darparu mynychwyr â thocyn a mynediad i’r digwyddiad.

Dim ond mewn achosion lle credir bod angen cefnogaeth gwsmeriaid er mwyn sicrhau mynediad i’r digwyddiad y caiff Gwerthwyr Trydydd Parti gychwyn rhyngweithiad gyda mynychwr digwyddiad.

Mae’n rhaid i Werthwyr Trydydd Parti sicrhau cydymffurfedd gyda GDPR y DU.[1]

Trwyddedau ac yswiriant

Mae Gwerthwyr Trydydd Parti yn cadarnhau fod ganddynt yr holl drwyddedau sydd eu hangen i gynnal y digwyddiad

Mae Gwerthwyr Trydydd Parti yn cadarnhau fod ganddynt yswiriant i gynnal y digwyddiad

Mae’n rhaid i Werthwyr Trydydd Parti ddarparu unrhyw ddogfennau pan fydd eCymru yn gofyn amdanynt

Adborth

Rydym yn croesawu ac yn annog adborth ac awgrymiadau ar gyfer eCymru.

Terfynu

Mae gan eCymru’r hawl i derfynu eich defnydd o eCymru os byddwch yn torri unrhyw amodau Polisi Preifatrwydd eCymru neu’r Cytundeb Trydydd Parti hwn.

[1] Mae GDPR y DU yn golygu rheolau GDPR fel y’u troswyd hwy i gyfraith gwlad y Deyrnas Unedig drwy weithrediad adran 3 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)
2018, ynghŷd â Deddf Diogelu Data 2018, a deddfwriaeth diogelu data neu breifatrwydd arall mewn grym yn y DU ar wahanol amseroedd.