Ein gweledigaeth yw cysylltu’r gymuned dai, gan ddarparu mynediad hawdd i grwpiau a digwyddiadau ar-lein i holl aelodau eCymru. Mae’r pandemig wedi rhoi cyfle unigryw i ni gysylltu â chydweithio ledled Cymru i ddarparu opsiwn digidol newydd i chi. Rydym yn credu mewn cydweithio, ac rydym wedi creu platfform sydd yn hawdd i’w ddefnyddio, hygyrch ar gyfer gweithgareddau, gyda gwybodaeth a chefnogaeth a fydd yn eich helpu i fyw bywydau hapusach ac iach.
"Rydym yn hapus iawn i fod yn rhan o eCymru, mae'n wych gallu darparu mwy o weithgareddau i'n tenantiaid eu mwynhau yn ogystal â mynediad i fwy o gyrsiau a llawer mwy!"
Lowri Evans, Swyddog Cymunedau
Grŵp Cynefin
Mae Cartrefi Cymunedol Tai Calon yn falch iawn o fod yn rhan o brosiect eCymru a fydd yn rhoi cyfle i’n tenantiaid ymgymryd â chyfleoedd hyfforddi, gweithgareddau lles a gwneud ffrindiau newydd o gysur eu cartrefi.
Phillip Meek
Tai Calon
Mae Hafod yn gyffrous iawn i fod yn rhan o'r cynllun peilot e-Cymru wrth i ni ystyried sut y gallwn ehangu ein cynnig digidol i'n cwsmeriaid i'w galluogi i gael cyrsiau hyfforddi am ddim yn eu cartrefi eu hunain ar adeg sy'n addas iddyn nhw. Gobeithiwn y bydd y cyrsiau'n cefnogi ein cwsmeriaid i ehangu eu gwybodaeth, magu hyder a hyd yn oed wneud ychydig o ffrindiau newydd ar draws y gwahanol landlordiaid.
Michelle McGregor
Hafod
Mae wedi bod yn brofiad anhygoel gweithio gyda thenantiaid a Landlordiaid Cymdeithasol cofrestredig o bob rhan o Gymru ar eCymru. Rydyn ni'n gobeithio y bydd eCymru yn caniatáu i'n tenantiaid ddatblygu newydd, a ailgynnau eu cariad at hen sgiliau a hobïau trwy'r ystod eang o ddigwyddiadau a chyrsiau sydd ar gael iddynt
Scott Tandy
Newydd