1. Crynodeb

Dogfen gyhoeddus yw’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn ac mae’n egluro ein bod yn rhannu gwybodaeth bersonol yn rheolaidd er mwyn darparu gwefan eCymru.

Mae eCymru yn blatfform i unrhyw un sy’n denant/preswylydd i Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru, i gael mynediad i ddigwyddiadau ar-lein megis gweminarau, dosbarthiadau ar-lein, ac ati. Mae’r partneriaid wedi llofnodi cytundeb rheolwyr ar y cyd, a Chytundeb Lefel Gwasanaeth (SLA), er mwyn cyfuno adnoddau i gyd-ariannu’r digwyddiadau hyn a’u gwneud yn hygyrch i bob tenant sy’n cofrestru ar eCymru.

Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn manylu ar ba wybodaeth bersonol a gedwir, y dibenion penodol ar gyfer ei chadw, a’r gweithdrefnau gweithredol gofynnol a’r cyfiawnhad cyfreithiol dros wneud hynny.

Fel Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (RSLau), mae’r partneriaid sy’n rhannu adnoddau yn cael eu rheoleiddio gan Lywodraeth Cymru.

Gellir crynhoi’r gweithgareddau arferol fel hyn:

Darparu mynediad i adnoddau / cyrsiau ar-lein er mwyn cefnogi lles a datblygiad personol tenantiaid / preswylwyr.

Ein gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw cysylltu’r gymuned dai, gan ddarparu mynediad hawdd i grwpiau a digwyddiadau ar-lein i bob aelod o eCymru. Rydym yn credu mewn gweithio gyda’n gilydd i greu lle hawdd, hygyrch ar gyfer gweithgareddau, gwybodaeth a chefnogaeth a fydd yn eich helpu i fyw bywydau hapusach ac iach.

2. Pwy ydyn ni

Mae eCymru yn cynnal gwasanaeth ar-lein sy’n darparu mynediad hawdd i grwpiau a digwyddiadau ar-lein i bob aelod o eCymru. Y Cyd-reolwyr Data yw’r holl aelodau canlynol:

Sefydliad

Dolen i’r Hysbysiad Preifatrwydd

Adra

https://www.adra.co.uk/en/privacy/

Tai Aelwyd

https://www.aelwyd.co.uk/media/uploads/Aelwyd-HA-Privacy-Notice-2018.pdf

Cartrefi Conwy

https://cartreficonwy.org/privacy-policy/

Cardiff Community Housing Association (CCHA)

https://ccha.org.uk/privacy-policy-2/

Cyngor Sir Ddinbych

https://www.denbighshire.gov.uk/en/privacy/privacy.aspx

Grŵp Cynefin

https://www.grwpcynefin.org/en/about-us/policies/

Hafod

https://www.hafod.org.uk/privacy-statement/

Linc Cymru

https://www.linc-cymru.co.uk/privacy-notice/

Merthyr Valleys Homes

https://www.mvhomes.org.uk/privacy-notice#:~:text=We%20envisage%20that%20we%20will,nuisance%20and%20antisocial%20behaviour%20complaints.

Newport City Homes

https://www.newportcityhomes.com/media/1978/tenants-privacy-notice-final-v2.pdf

Cymdeithas Tai Newydd

https://www.newydd.co.uk/about-us/our-privacy-notice

Tai Gogledd Cymru

https://www.nwha.org.uk/about-us/data-protection/

POBL

https://www.poblgroup.co.uk/privacy-statement/

RHA

https://www.rhawales.com/wp-content/uploads/2020/01/RHA-DATA-PROTECTION-DOWNLOAD.pdf

Tai Calon Community Housing

https://www.taicalon.org/privacy-notice/

Trivallis

https://www.trivallis.co.uk/en/privacy-information/

Cymoedd i’r Arfordir

https://www.valleystocoast.wales/privacy-and-data/

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

https://www.wrexham.gov.uk/service/privacy-notices

Cyngor Sir Ynys Môn

https://rrym.uk/privacy-policy/

Cymunedau Digidol Cymru

https://www.digitalcommunities.gov.wales/privacy-notice/

Gweler dolenni’r partneriaid i gael gwybodaeth uniongyrchol am sut mae pob Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yn prosesu eich data personol.

Bydd y partneriaid yn hyrwyddo ac yn marchnata eCymru er mwyn codi ymwybyddiaeth am y cyfoeth o adnoddau sydd ar gael.

Sut rydym yn casglu ein gwybodaeth

Mae eCymru’n casglu gwybodaeth wrth i chi fewngofnodi i’r wefan i gael mynediad at yr adnoddau a rennir; bydd enwau’n cael eu croesgyfeirio gyda’r Landlord Cymdeithasol Cofrestredig priodol, a phan fydd statws tenantiaeth wedi’i gadarnhau byddant yn cael eu derbyn a’u cofrestru ar y platfform.

Pan fyddwch yn darparu eich data personol, rydych yn gwneud hynny ar sail gyfreithiol Cydsyniad o dan Erthygl 6(1) (a) o’r GDPR, a bydd eCymru yn cael prosesu a rhannu eich data personol gyda’r partneriaid/Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.

Efallai y byddwn yn derbyn gwybodaeth amdanoch gan drydydd parti gan gynnwys atgyfeiriadau gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig nad ydynt yn aelodau.

3. Y math o wybodaeth rydyn ni’n ei chasglu amdanoch chi

  • Enw
  • Cyfeiriad e-bost
  • Cod Post
  • Ystod oedran
  • Manylion landlord presennol/blaenorol
  • Data gwerthuso
  • Gwybodaeth gefndir (os dewiswch gymryd rhan mewn unrhyw ymgyrchoedd hyrwyddo)
  • Ffotograffau/blog fideo (os dewiswch gymryd rhan mewn unrhyw ymgyrchoedd hyrwyddo)

4. Y math o brosesu rydyn ni’n ei wneud gyda’r wybodaeth a gesglir

Mae’r wybodaeth rydym ei hangen gennych yn cael ei defnyddio i hwyluso’r gwasanaethau ar y wefan, i ddarparu adnoddau i chi, ac i’w rhannu gyda’r gwerthwr trydydd parti.

Gellir defnyddio data dienw i ddarparu dangosyddion perfformiad metrigau/allweddol ar lwyddiant platfform eCymru.

Mae gwybodaeth bersonol yn cael ei storio a’i rheoli o fewn y systemau hynny sy’n cael eu cynnal, er mwyn sicrhau lefel uchel o gyfrinachedd gan gynnwys dilyn safonau arfer gorau ym maes seiberddiogelwch.

5. Sut byddwn yn cyfathrebu â chi

Bydd eCymru yn cyfathrebu â chi drwy’r wefan a thrwy anfon e-byst i gadarnhau cofrestru, cofrestru cwrs, ceisiadau am adborth, yn ogystal â thrwy anfon negeseuon hyrwyddo cyfnodol am gynnwys newydd, adborth ac astudiaethau achos.

6. Gyda phwy rydym yn rhannu data, a pha mor hir rydym yn cadw gwybodaeth

Yn ogystal â bod Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn rhannu data â’i gilydd, unwaith y byddwch yn cofrestru ar gwrs (er enghraifft) bydd eich enw a’ch cyfeiriad e-bost yn cael ei rannu gyda’r gwerthwr trydydd parti (darparwr y cwrs ac ati).

Bydd gwybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei chadw cyhyd ag y byddwch yn weithredol ar y wefan. Unwaith y bydd eich cyfrif yn dod yn anweithredol dros 12 mis, bydd eich cyfrif a’ch data yn cael eu dileu o’r wefan. Gallwch hefyd dynnu’n ôl eich caniatâd, a gofyn am ddileu’r wybodaeth yn gynnar.

7. Ble mae eCymru yn cael ei letya?

Mae eCymru yn cael ei letya yn Llundain – UK Data Centre.

Nid oes data personol yn cael ei ddal na’i drosglwyddo y tu allan i’r UK.

8. Yr hyn na fyddwn ni’n ei wneud

  • Ni fyddwn yn anfon deunydd marchnata digymell atoch.
  • Ni fyddwn yn gwerthu eich data personol i drydydd parti.
  • Ni fyddwn yn trosglwyddo eich data personol i drydydd parti amherthnasol oni bai bod gennym hawl i wneud hynny, neu ei bod yn ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith, neu fod gennym eich caniatâd penodol i wneud hynny.

9. Eich hawliau, yr hawl i gwyno, a Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO)

Mae gennych hawl i ofyn am gopi o’r data a gedwir amdanoch yn ogystal â hawliau perthnasol eraill o dan y ddeddfwriaeth diogelu data gyfredol. Cysylltwch â’ch Landlord Cymdeithasol Cofrestredig os dymunwch ofyn am fynediad i unrhyw ran o’ch data personol.

Bydd Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn ymateb o fewn 1 mis calendr.

Bydd bob amser yn help os gallwch fod yn benodol ynghylch pa ddata personol rydych am ei weld, yr hyn mae’n ymwneud ag ef, ac o fewn pa amserlen, gan y bydd hynny’n ein cynorthwyo i chwilio am eich data.

Efallai y byddwch yn dymuno tynnu’n ôl eich caniatâd i brosesu eich data personol; cysylltwch os gwelwch yn dda â: https://ecymru.co.uk/index.php/contact/

Mae gennych chi hefyd hawliau eraill sydd i’w gweld ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), a gallwch ddarllen am gyfraith Diogelu Data ar wefan  https://ico.org.uk

Mae gennych hawl i gwyno am unrhyw fater sy’n ymwneud â’n gwasanaeth, gan gynnwys sut rydym yn defnyddio eich data personol:

  • Yn y lle cyntaf cysylltwch â’r Tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.
  • Os ydych yn dal yn anhapus gyda’n gwasanaeth gallwch gwyno i’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ar wefan http://www.housing-ombudsman.org.uk/.
  • Os ydych eisiau cwyno am ein defnydd o’ch data personol, gallwch gwyno i Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth y DU ar wefan https://ico.org.uk/.

10. Gwybodaeth bellach

Am fwy o wybodaeth am eCymru, ewch i’n gwefan https://ecymru.co.uk os gwelwch yn dda.

11. Newidiadau i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Mae ein Hysbysiad Preifatrwydd yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd a diweddarwyd y fersiwn hon ar 14.09.2022.

Mae’r fersiwn ddiweddaraf bob amser ar gael ar ein gwefan.

Bydd hyn yn cael ei adolygu’n flynyddol ochr yn ochr â’r cytundeb rheolwr ar y cyd.