Deall datganoli yng Nghymru

Deall datganoli yng NghymruEicon yn rhydd rhag hawlfraint Disgrifiad o’r cwrs Cynnwys y cwrs Adolygiadau o’r cwrs Mae’r cwrs am ddim hwn yn dilyn y ffordd y mae setliad datganoli Cymru wedi cael ei drawsnewid yn yr 20 mlynedd ers y refferendwm ar ddatganoli yn 1997. Byddwch yn ystyried y ffordd y daeth Cynulliad â chefnogaeth mwyafrif bach iawn o’r cyhoedd a phwerau deddfu cyfyngedig yn Senedd â’r pŵer i osod trethi. Byddwch yn archwilio rhai o’r heriau mwyaf sy’n wynebu gwleidyddiaeth yng Nghymru heddiw, o ddadleuon dros faint y Senedd a diffyg craffu i gwestiynau am degwch o ran cyllido ac annibyniaeth farnwrol. Gan ddefnyddio fideo, sain ac elfennau rhyngweithiol, mae’r cwrs hwn yn dod â’r prif ddadleuon ym myd gwleidyddiaeth yng Nghymru yn fyw.