Virtual Cooking image

Sesiynau Coginio Rhithwir ar gael ar-alw i’ch helpu i reoli eich iechyd a’ch arian

Mae banciau bwyd yn y DU yn wynebu sefyllfa pwysau wrth i’r argyfwng costau byw orfodi mwy o bobl nag erioed i droi at barseli bwyd brys i oroesi. Yn ôl ffigyrau gan elusen Ymddiriedolaeth Trussell, dosbarthwyd 2,986,203 o barseli bwyd brys gan Fanciau Bwyd yn rhwydwaith Ymddiriedolaeth Trussell rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023.

Mae’r ffigurau hyn yn cynrychioli’r nifer uchaf o barseli bwyd brys a ddosbarthwyd erioed mewn un flwyddyn, gyda bron i dair miliwn o barseli wedi’u dosbarthu dros y flwyddyn ddiwethaf, cynnydd o 37% ers y flwyddyn flaenorol.

Yng ngoleuni’r ystadegau brawychus hyn, mae eCymru wedi recordio cyfres o ddosbarthiadau coginio rhithwir ar eu hadran ar-alw, sy’n galluogi unigolion sydd wedi’u cofrestru drwy eu landlord cymdeithasol i gael mynediad a dysgu ar eu cyflymder a’u hwylustod eu hunain. Gyda disgwyl i’r argyfwng costau byw barhau, gall dosbarthiadau coginio rhithwir fel y rhain helpu unigolion i gael rheolaeth dros eu hiechyd a’u harian.

Trwy ddysgu sut i goginio prydau maethlon, gall unigolion reoli eu hiechyd a’u harian, gan leihau eu dibyniaeth ar fanciau bwyd. Mae’r fformat rhithwir hefyd yn ei wneud yn hygyrch ac yn gyfleus, gan alluogi dysgwyr i gymryd rhan o gysur eu cartrefi eu hunain.

Peidiwch â gadael i’r argyfwng costau byw effeithio ar eich iechyd. Ewch i adran Ar-Galw gwefan eCymru heddiw i ddysgu sut i goginio prydau maethlon a rheoli eich arian.

Leave a reply