Disgrifiad
Mae peintiwr cerrig, Wendy, yn dangos sut i addurno cerrig gan ddefnyddio paent a deunyddiau cartref.
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno yn Saesneg.
Mae’r gweithgaredd celf syml hwn yn hwyl i bobl o bob oed.
Mae cerrig wedi’u paentio yn ategolion addurniadol deniadol i’r cartref, gellir eu personoli fel anrhegion neu gellir eu cuddio i eraill eu casglu pan fyddant allan am dro.
Ar gyfer y sesiwn hon bydd angen:
– Cerrig llyfn, gwastad
– Pensil
– Paent (e.e. potiau bach, Sharpies lliw neu farnais ewinedd
– Brwsh paent (bach)
– Farnais clir i’w selio (gallwch gael hwn yn ddiweddarach).
Mae’r sesiwn ar alw hon yn bosibl gan y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol.
Gwybodaeth am docynnau
docynnau
Bwcio ar-lein wedi cau