September
12
Thursday
Offer Digidol i Gefnogi Pobl sy’n Byw gyda Dementia
Thu, 12/09/2024 (10:00 am - 11:30 am)
Ar lein
Disgrifiad
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno yn Saesneg. Os hoffech gael mynediad i’r sesiwn gyda chyfieithydd ar y pryd, dewiswch ‘ie’ ar y ffurflen gofrestru a byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddarparu un.
Yn y sesiwn hon byddwn yn rhoi trosolwg o sut y gall offer digidol gefnogi pobl sy’n byw gyda dementia mewn ffordd ddiogel. Datblygwyd y sesiwn hon ynghyd ag Effro sy’n gweithio gyda chymunedau yng Nghymru i newid canfyddiadau o ddementia.
Byddwn ni yn:
- Cyflwyno’r cymorth sydd ar gael gan Gymunedau Digidol Cymru ac Effro.
- Trafod gweithgareddau hel atgofion a dull amlsynhwyraidd.
- Trafod pwysigrwydd cadw’n actif, yn gysylltiedig ag yn annibynnol.
- Cyflwyno offer digidol i gefnogi byw’n annibynnol a lles.
Gweminar ar y cyd bydd hwn a gynhelir gan Cymunedau Digidol Cymru, gyda siaradwr gwadd o Effro, a fydd yn cynnig cyngor ac arbenigedd ar y pynciau dan sylw.
Gwybodaeth am docynnau
docynnau
Bwcio ar-lein wedi cau
Calendr Digwyddiad
Thursday, 12/09/2024
10:00 am
-
11:30 am