Disgrifiad
Dewch i wrando ar gôr meibion o’r Barri a fydd yn perfformio caneuon côr clasurol yn ystod cyngerdd 30 munud.
Mae hwn yn ddigwyddiad ar-lein a gynhelir trwy Zoom. Bydd y ddolen i ymuno â’r digwyddiad byw ar gael i chi yn eich tab ‘Fy Archebion’ yn eich cyfrif, byddwch hefyd yn derbyn e-bost yn cadarnhau eich archeb ar adeg cofrestru ar y digwyddiad.
Gallwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn fel:
- Unigolyn: I gymryd rhan ar-lein gartref ar eich pen eich hun
- Fel grŵp: I gymryd rhan gydag eraill megis ar sgrin fawr gyda’ch grŵp cymunedol
