Disgrifiad
Ymunwch â Richard o Coginio Gyda’n Gilydd isod a fydd yn eich arwain trwy sut i greu Cyrri Cyw Iâr Popty Araf.
Mae’r cynhwysion sydd eu hangen ar gyfer y sesiwn coginio ar-alw yma wedi’u rhestru isod:
2 frest cyw iâr wedi’u torri’n dalpiau 1cm
1 nionyn mawr wedi’i bilio a’i dorri
1 pupur wedi’i ddad-hadu a’i dorri’n dalpiau 2cm
1 tun o domatos wedi’u torri
2 llwy bwdin o gorbys coch wedi’u sychu
3 llwy de o flawd corn
1 ciwb stoc cyw iâr neu lysiau
2 lwy de o biwrî tomato
4 llwy de o bowdr cyri
1 1/2 llwy de o berlysiau cymysg
1 1/2 llwy de o ronynnau garlleg (neu 2 ewin garlleg)
Mae sesiynau Ar-alw yn cael eu recordio ymlaen llaw. Mae hyn yn golygu bod y sesiwn yn cael ei recordio, ei olygu a’i gymeradwyo gan aelod o dîm eCymru cyn iddynt gael eu cyhoeddi.
