Hydref
27 Dydd Iau

Dewch i Goginio – Bwyd o Moroco

Iau 27/10/2022 11:00 am - 12:00 pm

Disgrifiad

Ymunwch â Richard o Coginio Gyda’n Gilydd a fydd yn creu Tagine Cyw Iar gyda couscous.

Rhestrir y cynhwysion sydd eu hangen ar gyfer y sesiwn goginio hon isod:

1 winwnsyn mawr
2 ewin garlleg
1 pupur
50g o fricyll sych
300g o gyw iâr wedi’i goginio
1 tin ffacbys
1 can tomatos wedi’u torri
2 lwy de blawd corn
1 ciwb stoc cyw iâr neu lysiau
2 lwy de piwrî tomato
2 lwy de o sinamon a phaprica mwg
1 llwy de o bowdwr cyri a pherlysiau cymysg

Er mwyn annog pawb i flasu ryseitiau newydd a rhoi cynnig ar seigiau newydd, gofynnwn i unrhyw un sydd angen y cynhwysion i gymryd rhan i anfon neges at y gwesteiwr yn eu hysbysu o hyn. Sylwch, ni ddarperir unrhyw gig fel rhan o’n pecynnau cynhwysion.

Gallwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn fel:

  • Unigolyn: I gymryd rhan ar-lein gartref ar eich pen eich hun.
  • Fel grŵp: I gymryd rhan gydag eraill megis ar sgrin fawr gyda’ch grŵp cymunedol.

Mae hwn yn ddigwyddiad ar-lein a gynhelir trwy Zoom. Bydd y ddolen i ymuno â’r digwyddiad byw ar gael i chi yn eich tab ‘Fy Archebion’ yn eich cyfrif, byddwch hefyd yn derbyn e-bost yn cadarnhau eich archeb ar adeg cofrestru ar y digwyddiad.

Calendr Digwyddiad

Dydd Iau, 27/10/2022

11:00 am - 12:00 pm  
Ar gau
Ychwanegu Adolygiad
Anfon Neges

Anfon post llwyddiant

Anfon post wedi methu

Nodwch y maes mewnbwn os gwelwch yn dda

reCAPTCHA verification failed. Please try again.