Medi
07 Dydd Llun

Deall ac ymateb i gasineb ar-lein (Cyfrwng Cymraeg)

Llun 07/09/2026 2:00 pm - 11:30 am
Ar lein

Disgrifiad

Bydd y sesiwn yma yn cael ei gynnal yn y Gymraeg. This session will be hosted in Welsh

Deall ac ymateb i gasineb ar-lein

Mae’r cynnydd mewn casineb, camwybodaeth a thwyllwybodaeth ar-lein yn her sylweddol i les cymunedol ac unigolion. O’r cyfryngau cymdeithasol a newyddion ar-lein, i sgamiau ac AI, gall bod ar-lein deimlo’n llethol iawn. Mae’r weminar ymarferol rhad ac am ddim hon wedi’i chynllunio ar gyfer unigolion sy’n dymuno adeiladu eu hyder i adnabod casineb a chamwybodaeth ar-lein a deall beth y gallant ei wneud i’w frwydro.

Mae croeso i unrhyw un, o aelodau o’r gymuned i sefydliadau, i’ch helpu i wneud synnwyr o’r byd ar-lein.

Yn y weminar hon byddwn yn trafod:

  • Beth yw casineb ar-lein a pham mae’n bwysig
  • Sut gall casineb ar-lein ledaenu a dod yn normal
  • Sut mae ein hymddygiad, algorithmau platfformau ac AI yn siapio’r hyn a welwn
  • Sut i ymateb yn ddiogel, yn adeiladol ac yn hyderus.

Mae hon yn weminar sy’n cael ei hailadrodd a’i chynnig dros sawl dyddiad.

Dewch draw, rhoi hwb i’ch sgiliau, a helpu i gadw mannau ar-lein yn fwy diogel ac yn fwy parchus i bawb yng Nghymru.

Calendr Digwyddiad

Mercher, 15/07/2026

2:00 pm - 3:30 pm  
Ar gau

Dydd Llun, 07/09/2026

2:00 pm - 3:30 pm  

Dydd Iau, 05/11/2026

10:00 am - 11:30 am  

Ychwanegu Adolygiad
Anfon Neges

Anfon post llwyddiant

Anfon post wedi methu

Nodwch y maes mewnbwn os gwelwch yn dda

reCAPTCHA verification failed. Please try again.