Mae Tenantiaid ledled Cymru yn Mwynhau Sesiynau Ymwybyddiaeth Ofalgar ar eCymru

Mae tenantiaid ledled Cymru wedi bod yn elwa o Sesiynau Ymwybyddiaeth Ofalgar a gynigir gan eCymru. Dechreuodd y fenter pan ofynnodd tenantiaid mewn lleoliad Gofal Ychwanegol Grwp Cynefin yn Ynys Môn am sesiynau i ddeall ymwybyddiaeth ofalgar a’i buddion trwy ymarfer rheolaidd. 

Ymatebodd eCymru trwy drefnu cyfres o sesiynau wythnosol dros bedair wythnos, dan arweiniad y Ymarferydd Ymwybyddiaeth Ofalgar David Oldham. Gyda bron i 30 mlynedd o brofiad yn dysgu myfyrdod tosturiol ymwybodol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, cyflwynodd David y cyfranogwyr i’r theori a’r wyddoniaeth y tu ôl i fyfyrdod tosturiol ymwybodol. Roedd y sesiynau’n cynnwys ymarferion syml wedi’u cynllunio i helpu unigolion i ddysgu gofalu amdanynt eu hunain trwy ymwybyddiaeth ofalgar. 

Oherwydd llwyddiant y sesiynau cychwynnol hyn a thrafodaethau pellach gyda thenantiaid, penderfynwyd parhau â’r sesiynau ar sail misol i ganiatáu i fwy o denantiaid gymryd rhan. Mae’r sesiwn nesaf wedi’i threfnu ar gyfer Mawrth 20fed o 3pm i 4pm. 

Mae David hefyd wedi darparu rhai sesiynau wedi’u recordio ymlaen llaw sydd ar gael yn yr adran Ar Alw eCymru, gwrandewch heddiw! 

Leave a reply