Chwefror
08
Dydd Iau
Darganfod AI yn hyderus: Canllaw i ddechreuwyr ar gofleidio deallusrwydd artiffisial (AI)
Iau 08/02/2024 10:00 am - 11:30 am
Ar lein
Disgrifiad
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno yn Saesneg. Os hoffech gael mynediad i’r sesiwn gyda chyfieithydd ar y pryd, dewiswch ‘ie’ ar y ffurflen gofrestru a byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddarparu un.
Mewn byd sy’n cael ei siapio fwyfwy gan ddatblygiadau technolegol, mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) ar flaen y gad o ran arloesi. Ond gall llywio deallusrwydd artiffisial, deall ei gymwysiadau a gwybod ble i ddechrau, fod yn anodd i’r rhai sydd â hyder digidol isel ei ddeall.
Yn y sesiwn hon, byddwn yn:
- Trafod defnyddiau creadigol ar gyfer deallusrwydd artiffisial a sut i’w ddefnyddio fel offeryn digidol deniadol i rywun sydd newydd ddechrau ar eu taith ddigidol.
- Archwilio AI a’i ddefnyddiau mewn gwahanol leoliadau, gan gynnwys cymhorthion cynhyrchiant ac iechyd.
- Ystyried goblygiadau Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer diogelwch ar-lein a meddwl yn feirniadol wrth gyrchu gwybodaeth ar-lein.
Calendr Digwyddiad
Dydd Iau, 08/02/2024
10:00 am
-
11:30 am